Byddwn, os na allwch ddod i'n gweld ni (er enghraifft os ydych wedi'ch cadw dan orchymyn yn yr ysbyty) yna gallwn drefnu ymweld â chi lle bynnag y boch; fel arall, os nad yw hynny'n bosibl neu os yw'r mater yn un brys, yna bydd modd inni gymryd cyfarwyddyd gennych dros y ffôn.
Mae ein swyddfa wedi cael ei hadnewyddu gryn dipyn i sicrhau fod yr holl adnoddau yn gyfan gwbl hygyrch, gan gynnwys toiled sy'n hygyrch i bobl anabl ar y llawr isaf. Yn y swyddfa hefyd mae system dolen sain cludadwy ar gyfer pobl sydd ag anawsterau clywed ac sy'n gwisgo teclyn clyw gydag adnodd 'T'.
Gallwn, rydym yn aml yn gweithio ar ran pobl sydd heb y gallu i roi cyfarwyddyd inni. Cyn belled nad oes gwrthdaro mewn buddiannau, byddwn yn derbyn cyfarwyddyd gan bawb sydd â diddordeb yn lles unigolion sydd â diffyg gallu, a phryder dilys amdanynt. Os nad oes modd i neb weithio ar eu rhan, yna byddwn yn cysylltu â'r Cyfreithiwr Swyddogol.
Rydym yn gwneud ein gorau i wneud yn siŵr bod modd inni gynghori cymaint o bobl ag y bo modd. Rydym yn cynnig 'Cymorth Cyfreithiol' i bawb sy'n gymwys. Pan fyddwn yn eich cyfarfod i ddechrau, byddwn yn dweud wrthych os ydych yn debygol o fod yn gymwys i dderbyn 'Cymorth Cyfreithiol'. Yn gryno, mae pobl sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar Incwm neu Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth wedi'i warantu, yn gymwys yn ariannol i dderbyn nawdd cyhoeddus. Mae pobl eraill sy'n derbyn incwm isel neu fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd yn debygol o fod yn gymwys, yn aml yn amodol ar gyfraniad misol, cyn belled nad oes ganddynt gynilion o fwy na £8,000 neu ecwiti mewn eiddo dros £100,000. Os nad ydych yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol, byddwn yn rhoi gwybodaeth drylwyr am ein costau presennol pan fyddwch yn cysylltu â ni yn gyntaf.
Mae Rebecca Humphreys yn siarad Cymraeg fel iaith cyntaf ac yn hapus i weithio drwy Cymraeg.
Mae Julie Burton wedi dysgu'r Gymraeg i safon uchel a gall gyfathrebu yn Gymraeg os oes angen.
Er hynny, defnyddir y Saesneg mewn gohebiaeth ffurfiol ynghylch eich achos.