Cymraeg // English

Croeso i Julie Burton Law

Mae Julie Burton Law yn cynnig cyngor cyfreithiol tra arbenigol er mwyn mynnu hawliau pobl ag anableddau i dderbyn gwasanaethau addas.

Gallwn helpu pobl sydd ag anableddau corfforol, pobl sydd ag anawsterau dysgu, pobl hŷn, pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a phobl sydd angen gwasanaeth gofal parhaus gan y GIG. Gallwn hefyd helpu rhieni a gofalwyr.

Mae Julie Burton Law yn gweithio'n agos gyda chyfreithwyr eraill, mudiadau yn y sector gwirfoddol (megis Shelter, MIND, Mencap, CAB) grwpiau eirioli a grwpiau gofalwyr. Mae Julie Burton Law yn helpu pobl i gael y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen, ac y mae ganddynt yr hawl i'w derbyn.

Croesawn ymholiadau gan bawb sydd angen ein gwasanaethau, gan gynnwys teuluoedd a gofalwyr. Gall cyfreithwyr, meddygon a gweithwyr cymdeithasol atgyfeirio cleientiaid atom hefyd.

Mae gan Julie Burton Law gontractau gyda'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol i ddarparu cyngor cyfreithiol arbenigol trwy'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol ym maes cyfraith Gofal Cymunedol, cyfraith Iechyd Meddwl a chyfraith Anghenion Addysgol Arbennig.

Gall Julie Burton Law drefnu cais am 'Gymorth Cyfreithiol' i bawb sy'n gymwys i'w dderbyn.

Mae Julie Burton Law yn gweithio ar hyd ac ar led Gogledd Cymru a Cheredigion.


Legal Aid Lawyer of the Year Awards - Finalist 2008

 

Mae Julie Burton Law yn gweithio ar hyd ac ar led Gogledd Cymru a Cheredigion 01248 364750 post@julieburtonlaw.co.uk
© Hawlfraint 2008 Julie Burton Law. Cedwir pob hawl.
62 Sgwâr Kyffin, Bangor, Gwynedd LL57 1LA
Dylunio gan L29 Design | Gwefan gan Bilberry Design

XHTML 1.0 strict